Effaith y Gyllideb ar eich Agenda Darlledu

 

Annwyl Weinidogion,

 

Rydym yn ysgrifennu er mwyn gofyn cwestiwn am oblygiadau’r toriadau arfaethedig o £1.1 miliwn i linell gwariant ‘darlledu a’r cyfryngau’ yn y gyllideb drafft a gyhoeddwyd gennych y mis hwn. Byddem yn ddiolchgar os gallech ateb y cwestiynau canlynol:



 

Ers y cyhoeddiad yn 2021 bod Llywodraeth Cymru yn credu ‘y dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i'r Senedd’ a chanfyddiadau’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai ‘gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli’ darlledu, rydym wedi bod yn falch bod cefnogaeth drawsbleidiol i’n hymgyrch dros sicrhau pwerau darlledu a chyfathrebu i’n Senedd. 

 

Yn wyneb y diffyg gwybodaeth am ein gwleidyddiaeth a’r cynnydd brawychus mewn camwybodaeth beryglus sy’n cyfrannu at dwf grymoedd yr adain dde eithafol a ganietir gan y system ‘reoleiddio’ neo-ryddfrydol ddiffygiol sydd gennym, gobeithiwn yn fawr y byddwch yn parhau i symud ymlaen â’ch cynigion am Gorff Darlledu a Chyfathrebu er lles democratiaeth a diwylliannau Cymru.

 

Yn hynny o beth byddem yn ddiolchgar petai chi’n gallu dweud pryd fydd cyhoeddiad am benodi aelodau i’r Corff Darlledu a Chyfathrebu ac amserlen ar gyfer eu gwaith.

 

Yr eiddoch yn gywir,

 

Carl Morris

Cadeirydd, Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith

 

Copi at: Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS; Llefarydd Plaid Cymru ar Ddarlledu, Heledd Fychan AS